Defnydd Derbyniol o DEWi
Beth sydd yn y Polisi hwn?
Mae'r polisi defnydd derbyniol hwn yn diffinio defnydd priodol ac amhriodol DEWi ac yn nodi'r safonau cynnwys sy'n berthnasol pan fyddwch yn uwchlwytho cynnwys i DEWi, yn cysylltu â DEWi, neu'n rhyngweithio â DEWi mewn unrhyw ffordd arall.
Pwy ydym ni a sut i gysylltu â ni
Gweithredir DEWi gan Lywodraeth Cymru.
I gysylltu â ni, e-bostiwch ims@gov.wales neu ysgrifennwch atom yn:
School Information & Improvement Branch,
School Effectiveness Division,
Welsh Government, Cathays Park,
Cardiff,
CF10 3NQ
Drwy ddefnyddio ein Gwefan rydych yn derbyn y telerau hyn
Drwy ddefnyddio ein Gwefan, rydych yn cadarnhau eich bod yn derbyn telerau'r polisi hwn a'ch bod yn cytuno i gydymffurfio â nhw.
Efallai y byddwn yn gwneud newidiadau i delerau'r polisi hwn.
Gallwn ddiwygio'r Polisi Defnydd Derbyniol hwn o bryd i'w gilydd.
Bob tro yr hoffech ddefnyddio ein Gwefan, gwiriwch y telerau hyn i sicrhau eich bod yn deall y telerau sy'n berthnasol bryd hynny.
Sut y gallwch ddefnyddio DEWi
Mae DEWi yn galluogi trosglwyddo a dilysu gwybodaeth am ddisgyblion, y gweithlu a ' r ysgol yn ddiogel ar gyfer casgliadau data statudol drwy system gadarn. Mae hefyd yn ffordd i ysgolion rannu’r data hwn â’u hawdurdodau lleol. Defnyddir adnoddau defnyddiol i helpu ysgolion ac awdurdodau lleol i ddilysu eu data.
Defnyddir DEWi hefyd gan Lywodraeth Cymru i rannu gwybodaeth ag awdurdodau lleol.
Gall aelodau staff awdurdodau lleol ddefnyddio DEWi ar wahanol lefelau ar gyfer y dibenion canlynol:
- gweld a dilysu datganiadau data statudol ysgolion
- anfon datganiadau data statudol ysgolion i LC
- nodi unrhyw sylwadau ar adroddiadau gwallau ar gyfer datganiadau data statudol ysgolion
- lawrlwytho ffeiliau xml a csv y datganiadau data statudol ysgolion
- efelychu ysgolion
- ailosod cyfrineiriau ysgolion DEWi
- anfon ffeiliau cyffredinol i LC pan fo angen
- lawrlwytho adroddiadau eraill gan LC
- gweld a lawrlwytho adroddiadau ar gyfer datganiadau data statudol ysgolion
Bydd staff awdurdodau lleol ond yn gallu defnyddio DEWi os oes ganddynt angen busnes dilys i ddefnyddio’r system yn unol â’r defnydd a fwriedir sydd wedi ei amlinellu uchod. Mae defnydd DEWi a’r defnydd o gyfrifon defnyddwyr yn cael ei fonitro’n rheolaidd.
Defnyddiau gwaharddedig
Dim ond at ddibenion cyfreithlon y cewch ddefnyddio ein Gwefan.
Nid yw DEWi yn adnodd ar gyfer archifo data. Bydd data yn aros ar DEWi am un flwyddyn ar y hiraf. Nid yw DEWi chwaith yn adnodd trosglwyddo ffeiliau rhwng ysgolion, neu rhwng awdurdodau lleol.